Cynhyrch Coffa – Tawel
Mynd i'r cynnwys

Cynhyrch Coffa

Bydd croeso i chi dreulio amser yn archwilio ein hystod o gynhyrch coffa, sydd i anrhydeddu’r anifeiliaid anwes gwerthfawr y mae gennym y fraint o ofalu amdanynt.

Mae Tawel yn cynnig amrywiaeth o yrnau, casgedi a mwy. Dyma rhai enghreifftiau.

Gall y rhan fwyaf o eitemau gael eu hysgythru gydag enw eich anifail anwes ac unrhyw neges yr hoffech ei chynnwys.

Silindr Gwasgaru

Daw y rhain o’r bobl a’i ddyfeisiodd yn y lle cyntaf; maent o ansawdd uchel ac yn addas i’r diben. Cynhwysir silindr gwasgaru o fewn gost yr amlosgiad.

Casged Tywi

Rydym yn falch iawn or gasged bioddiraddadwy hon. Mae wedi ei wneud o ganghennau helyg ac wedi ei leinio a defnydd cotwm calico meddal y tu fewn. Fedrwn engrafio plac bambw a’i clymi ir gasged, sydd yn creu’r deyrnged fwyaf perffaith.

Casgliad Dinefwr

Arddangosir ein Casgliad Dinefwr ein casgedu pren deniadol. Gwneir y rhain o fambw cynaliadwy, neu o dderw neu onnen naturiol, yn ddibynnol are eich ffafriaeth. Cynnigwn amrywiaeth, or syml i’r addurnedig, thra bod pob darn yn lluniaidd a chain. Fedrwn engrafio’r caead gyda enw eich anifail, neu drwy atodi plac fetalaidd.

Wrn byw

I berchnogion sy’n dymuno gweld bywyd newydd yn tyfu o olion gwerthfawr eu hanifail anwes. Mae Tawel yn falch o fod yn gyflenwr o bridd cymysg sydd wedi’i brofi’n wyddonol i niwtraleiddio gwenwyndrau sy’n casglu mewn olion wedi ei amlosgu. Mae’r pridd yn golygu y gallwch blannu coeden neu blanhigyn coffa a bod yn hyderus o’i ffyniant dros y blynyddoedd i ddod. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Coffa Cothi

Mae’r wrn, siap ddeugryn hon yn ddewis arloesol ac eco-ymwybodol. Maent yn ysgafn ac wedi ei wneud o bren haenog o ffynhonnell FSC a chyfansawdd sero fformaldehyd.